Back to News
Arolwg brechu Iechyd Cyhoedd
Posted or Updated on 17 Apr 2026
Arolwg brechu Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer rhieni/gofalwyr plant cyn-ysgol (0-5 oed)
https://ex.civicamysay.co.uk/BBZy2fVWFc
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awyddus i wella'r wybodaeth yr ydym yn ei rhoi i rieni/gofalwyr
plant cyn oed ysgol ynglŷn â’r brechiadau y maen nhw’n eu derbyn rhwng 0 a 5 oed.
Rydym yn cynnal arolwg ar gyfer rhieni/gofalwyr gan ddefnyddio'r platfform CIVICA ar-lein. Gofynnir i
bobl sy'n cymryd rhan am eu barn ar y brechiadau y gallai eu plant fod wedi'u derbyn, yn ogystal â'u hymwybyddiaeth o unrhyw wybodaeth y gallen nhw fod wedi'i gweld ynglŷn â brechiadau cyn-ysgol.
Bydd yr arolwg yn ein helpu i ddatblygu adnoddau gwybodaeth gwell a mwy priodol, a byddai Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwerthfawrogi barn rhieni/gofalwyr yn fawr er mwyn cyflawni hyn.
Ni fydd yr arolwg byr hwn yn gofyn am unrhyw ddata personol fel enw, cyfeiriad na dyddiad geni. Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar berson i gwblhau'r arolwg. Mae yna hefyd opsiwn i dynnu'r atebion i'r arolwg yn ôl ar ôl ei gwblhau gan ddefnyddio cyfeirnod unigryw, os bydd rhai pobl yn newid eu meddwl ac yn penderfynu nad ydyn nhw eisiau cymryd rhan mwyach.
Mae'r arolwg yn cau ddydd Gwener 14eg Tachwedd 2025
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: phw.vaccines@wales.nhs.uk
Defnyddiwch y ddolen neu'r cod QR hwn i fynd i'r arolwg

Text from above image:
Are you a parent or carer to a child or children under the age of five?
We'd like to hear from you!
Take our survey and tell us about your views and experiences of childhood vaccines
Scan the QR code for more information or visit https://ex.civicamysay.co.uk/BH3VUdpLBF
Vaccination saves lives
Ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr i blentyn neu blant o dan bump oed?
Hoffem glywed gennych chi!
Cwblhewch ein harolwg a dywedwch wrthym beth yw eich barn a'ch profiadau o frechlynnau plant
Sganiwch y cod QR am ragor o wybodaeth neu ewch i
https://ex.civicamysay.co.uk/BBZy2fVWFc
Mae Brechu yn achub bywydau