Y TU ALLAN I ORIAU
Mae meddyg ar alwad bob amser. Ar gyfer y gwasanaeth brys y tu allan i oriau, ffoniwch 759163 i gael rhif ffôn y meddyg ar ddyletswydd, a roddir fel neges wedi'i recordio. Gwrandewch ar y neges yn ofalus gan y gall gynnwys mwy nag un rhif ar rai achlysuron. MEWN ACHOSION EITHRIADOL, FFONIWCH 999 AM AMBIWLANS OS BYDD YNA OEDI WRTH GYSYLLTU â MEDDYG. Gallwch gysylltu â Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau Gogledd Cymru ar 0300 123 5566.
PRYNHAWNIAU HYFFORDDIANT MEDDYGFA
Sylwer os gwelwch yn dda y bydd y feddygfa ar gau o 1.00 tan 5.00pm ar un dydd Mercher neu ddydd Mawrth o bob mis ar gyfer hyfforddiant staff. Bydd posteri ar y prif ddrysau bythefnos cyn y dyddiad cau. Os bydd arnoch angen gweld Meddyg ar frys yn ystod y cyfnod hwn, ffoniwch rif arferol y feddygfa os gwelwch yn dda byddwch yn cael y rhif argyfwng ar y peiriant ateb.
GWASANAETHAU ERAILL
Cynhelir clinigau cyn-geni bob wythnos mewn cysylltiad â bydwragedd y gymuned.
Nyrsys y feddygfa sy'n gwneud profion ceg y groth.
POLISI GWARCHODWR
Mae gan bob claf hawl i gael gwarchodwr yn bresennol ar gyfer unrhyw ymgynghoriad, archwiliad neu driniaeth ble byddant yn teimlo bod angen. Gall y gwarchodwr fod yn aelod o'r teulu neu ffrind. Ar adegau, efallai y byddai'n well gennych i warchodwr ffurfiol fod yn bresennol e.e. aelod o staff hyfforddedig.
Pan fydd hynny'n bosibl, gofynnwn i chi wneud y cais hwn adeg trefnu'r apwyntiad er mwyn gwneud trefniadau ac i osgoi unrhyw oedi ar gyfer eich apwyntiad. Os na fydd hyn yn bosibl, byddwn yn ceisio cynnig gwarchodwr ffurfiol adeg y gwneir y cais. Fodd bynnag, efallai y bydd angen aildrefnu'r apwyntiad weithiau.
Efallai y bydd y gweithiwr proffesiynol gofal iechyd angen gwarchodwr yn bresennol hefyd ar gyfer rhai ymgynghoriadau yn unol â pholisi gwarchodwr.
GWYBODAETH BELLACH
TYSTYSGRIFAU
Ar gyfer unrhyw salwch sy'n parhau am saith diwrnod neu lai, dylai cleifion gael ffurflen SC2 (hunan-dystysgrif) gan eu cyflogwr. Mae tystysgrifau meddygol sy'n angenrheidiol gan y meddyg am saith diwrnod cyntaf salwch ar gael yn breifat yn unig, a chodir tâl gan y feddygfa. Mae tystysgrifau meddygol am salwch sy'n parhau mwy na saith diwrnod ar gael am ddim gan y meddyg teulu.
PROFION CEG Y GROTH
Rydym yn argymell bod pob merch hyd at 65 oed yn cael prawf ceg y groth rheolaidd (o leiaf bob tair blynedd). Cysylltir â chi ar gyfer hyn - trefnwch apwyntiad gyda nyrs y feddygfa a sicrhewch eich bod yn mynychu os gwelwch yn dda.
PLANT DAN 16 OED
Rhaid i blant dan 16 oed ddod i'r feddygfa gyda rhiant neu warchodwr. Os byddant yn dod eu hunain, byddant yn cael eu gweld mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.
MYNEDIAD AT WYBODAETH FEDDYGOL I RIENI PLANT 16 OED A THROSODD AC I WYR/GWRAGEDD/PARTNERIAID AYYB
Dalier sylw: o 16 oed, yn ôl y gyfraith ni allwn roi canlyniadau profion nac unrhyw wybodaeth feddygol arall i rieni oni bai bod y claf wedi arwyddo ffurflen i roi caniatâd i ni wneud hynny. Mae'r gyfraith hon yn berthnasol i wŷr a gwragedd ayyb. Mae ffurflen ar gael gan un o'rderbynyddion.
BRECHU PLANT AC OEDOLION
OED
|
Pa frechlyn a roddir
|
Sut mae’n cael ei Roi
|
2 fis oed
|
Polio, Difftheria, Tetanws, y Pâs, Hib niwmococol cyfun (PCV) rotafirws brechiad meningitis B
|
wedi’u rhoi mewn 1 pigiad 1 pigiad 1 dogn trwy’r geg
|
3 mis oed
|
Polio, Difftheria, Tetanws, y Pâs, Hib rotafirws
|
1 pigiad 1 dogn trwy’r geg
|
4 mis oed
|
Polio, Difftheria, Tetanws, y Pâs, Hib Pigiad niwmococol brechiad meningitis B
|
1 pigiad 1 pigiad
|
rhwng 12 a 13 mis
|
Pigiad atgyfnerthu Llid yr Ymennydd Hib/Llid yr Ymennydd C Brech Goch, Clwy Pennau, Rwbela Pigiad atgyfnerthu niwmococol brechiad meningitis B
|
1 pigiad 1 pigiad 1 pigiad
|
2 i 5 oed
|
ffliw (chwistrell ‘fluenze’ trwy’r trwyn)
|
chwistrell trwy’r trwyn neu bigiad os oes gwrtharwyddion i bigiad yn cael ei roi bob blwyddyn
|
3 blwydd 4 mis oed neu’n fuan wedyn
|
Polio, Difftheria, Tetanws, y Pâs Brech Goch, Clwy'r Pennau, Rwbela
|
1 pigiad 1 pigiad
|
merched 12 i 14 oed
|
HPV yn cael ei roi yn yr ysgol
|
cwrs o 2 bigiad yn cael eu rhoi ag o leiaf 6 mis rhyngddynt
|
oddeutu 14 blwydd oed
|
Difftheria, Tetanws, Polio Llid yr ymennydd C
|
1 pigiad 1 pigiad
|
65 oed a hyn
|
Y Ffliw
|
1 pigiad bob blwyddyn
|
65 blwydd oed
|
niwmococal
|
1 pigiad 1 pigiad
|
70 blwydd oed
|
Yr eryr
|
1 pigiad
|